Beth yw "ail-eni"?

Medrwch agor pynciau newydd yma i ennyn trafodaeth yn ymwneud â materion cyfoes

Beth yw "ail-eni"?

Postiogan rhysllwyd » Mer Chw 24, 2010 11:25 am

Gofynodd Judith mewn edefyn arall:

Judith a ddywedodd:Y mae Huw Mereydd Owen yn codi cwestiwn pwysig wrth holi beth yn union yr ydym yn ei feddwl wrth ddefnyddio termau fel "ail-eni".

Mae'r term hwn yn derm dyrys iawn ac un sydd wedi peri i rai orfoleddu tra bo eraill wedi poeni lawer amdano ar hyd yr amser.

I lawer o Gristnogion fe fydd y profiad o gael eich ail-eni yn brofiad ffordd Ddamascus ac y mae hyn digwydd heddiw. Ond ni ddigwydd i bawb yn yr un modd ac i lawer eraill fe fydd y profiad o gael ein aileni yn brofiad a fydd yn para ar hyd ein bywydau wrth inni geisio dynnu'n nes at Grist a thyfu a datblygu yn ein ffydd. Dwywaith y defnyddiodd yr Iesu y term tra'n sgwrsio gyda Nicodemus ond erbyn hyn y mae'n cael ei ddefnyddio braidd yn ddeddfol gan rai. Rhiad cofio nad yr unfed gorchymyn ar ddeg yw'r rheidrwydd i gael ein ail-eni.


Tybio oeddwn fod y cwestiwn yn haeddu trafodaeth arbennig er mwyn cadw at y testun gwreiddiol yn yr edefyn arall.

Wn i ddim faint ohonoch chi wrandawodd ar raglen Gwilym Owen nol fis Tachwedd? Yn ôl ei arfer roedd Gwilym yn holi’r cwestiynau ar ei raglen y buasai’n cael gwybod yr ateb iddynt fan yma pe tae e’n dod atom ni i Benuel. Mae'n aelod mae'n debyg er na welais yno erioed a finnau wedi bod yn mynd yna ers dros ddwy flynedd bellach. Ond ta waeth am hynny. Yr eitem ar Week In Week Out yn dwyn y teitl “Born Again Wales” enynnodd chwilfrydedd Mr. Owen ac fe wahoddodd dri gweinidog i fewn i drafod y rhaglen gyda fe. Meirion Lloyd-Davies ar un pen, Guto Prys ap Gwynfor yn y canol ac Euros Wyn Jones ar y pegwn arall. Un o gwestiynau Gwilym i’w gyfranwyr oedd “Beth yn union ydy ‘born again’ beth yn union ydy’r ‘ail-eni’ yma?”

Euros gafodd gyfle i ymateb gyntaf ac fe ddywedodd yn ddigon cywir ein bod ni yn yr eglwysi Cymraeg wedi mynd i ofni defnyddio termau o’r fath. Fe bwyntiodd allan mae rhywbeth lled diweddar ydy ofni sôn am ail-eni, ofni sôn am dröedigaeth ac yn y blaen oherwydd i Gristnogion Cymry drwy hanes y mae’r athrawiaeth hon wedi bod o bwys canolog. Atebodd Meirion Lloyd-Davies Euros drwy ddweud nad oedd yn gwadu fod lle i ddyn gael ei ail-eni ond ei fod yn credu fod y “ffwndamentalwyr” yn anghywir i ddysgu mae dyna’r unig ffordd i mewn i’r ffydd Gristnogol. Unwaith roedd rhywun wedi defnyddio’r gair “ffwndamentalwyr” roedde chi’n gwybod wedyn y byddai’r drafodaeth yn mynd yn fler a Gwilym Owen yn dechrau mwynhau ei hun.

Yna dyma Guto Prys yn dod i fewn a rhoi Euros a Meirion yn eu lle mewn gwirionedd. Fe aeth Euros yn syth at hanes a diwinyddiaeth ac fe aeth Meirion yn syth ati i golbio safbwynt doedd e ddim yn cytuno a hi. Ond fe aeth Guto yn syth at yr hyn yr oedd Iesu ei hun yn dweud am ail-enedigaeth. Wrth i Iesu gyfarfod a Nicodemus yn Ioan 3 (John 3:1-8) y clyw ni sôn am yr ail-enedigaeth gyntaf. Eglurodd Guto mai ystyr yr ail-eni yma oedd dod i safbwynt gwahanol, gweld pethau o’r newydd a dod i ddeall pethau o’r newydd. Esboniodd fod hynny yn dechrau gyda edifeirwch sef cydnabod eich bod chi wedi bod yn cerdded i’r cyfeiriad anghywir heb Dduw ac fod angen i chi droi eich bywyd o gwmpas, rhoi eich ffydd yn Iesu a cherdded gydag ef ac nid oddi wrtho ef fel oeddech chi’n gynt.

Yn ei lythyr at yr Effesiaid yn yr ail bennod (Effesiaid 2:1-10) mae Paul yn esbonio hyn yn fanwl ac yn ddigon clir i ni. Mae Paul yn cychwyn yn Adnod 1 drwy ddweud wrth yr Effesiad fod yna adeg pan oedden nhw’n farw yn eu gweithredoedd a’u pechodau. Rydym ni gyd yn bechaduriaid, ac os oes yna rhywun yma yn gwadu hynny yna dwi’n 100% siŵr y gall eich gwr, eich gwraig, cariad neu ffrind i chi ddod a digon o dystiolaeth yn eich erbyn! Mae Paul yn cloi y drydedd adnod drwy nodi fod ein holl lanast yn ein bywydau a’n byd yn ein gwneud ni’n ddigon cymwys i orwedd dan ddigofaint Duw.

Wedi’r cyfan – os fyddwn ni wrthi yn gwneud llun a bod y cyfan yn mynd yn fler fyddwn ni’n sgrynshio’r llun fyny a’i daflu i’r bin i gael dechrau eto. Os fyddw ni’n coginio cacen ac fod y gacen ddim yn codi fyddwn ni’n ei daflu i’r bin i gael dechrau eto. Os fydd artist pop yn sgwennu can sâl yna aiff e ddim pellach na’r stiwdio, gyrhaeddith e ddim mo’r CD yn y siopau. Pan fo pethau’n mynd yn flêr yr hyn sy’n naturiol i wneud ydy taflu’r cyfan i gael dechrau eto. Ac oherwydd ein llanast ni yn y byd yr oll ddylem ni ddisgwyl yw fod Duw yn taflu’r cyfan bant i gael dechrau eto. Dyna yw ystyr ‘digofaint’ Duw.

Ond rhaid i ni ddarllen ymlaen oherwydd roedd gan Dduw plan b ar ein cyfer. Ffordd i ni osgoi ei ddigofaint er mwyn dod i ddeall a mwynhau ei gariad. Yn adnod 4 rydym ni’n darllen am gyfoeth trugaredd Duw a mawredd ei gariad tuag atom ni. Yn adnod 5 maen sôn ein bod ni’n farw yn ein ffyrdd ond yn fyw yng Nghrist. Fel mae’r teitl yn y Beibl Cymraeg Newydd yn dweud “O Farwolaeth i Fywyd” dyma’r ail-eni yr oedd gan Gwilym Owen y diddordeb mawr yn ei gylch.

Ac sut ydym ni wedi cael ein ail-eni? Wel trwy ras. Ystyr y gair gras yn y cyswllt yma yw rhodd sy’n gofyn dim byd yn ôl. Rhodd di-amodol i ni gan Dduw. Dyma gymal sy’n ein cynorthwyo i ddeall beth yw gras dwi'n meddwl:

Does dim byd fedrwn ni wneud i Dduw ein caru ni fwy a does dim byd fedrwn ni wneud i Dduw ein caru ni lai.

Dyna beth yw gras yn ei hanfod.

Un o’r pethau ddywedodd Meirion Lloyd-Davies ar raglen Gwilym Owen oedd fod pobl oedd yn credu ac yn pwysleisio ail-enedigaeth yn edrych i lawr ar bobl eraill. Fel Cristion fe fedra i gydnabod fod tuedd anffodus ymysg rhai Cristnogion i fod yn hunangyfiawn. Ond eto yn adnodau 8 a 9 rydym ni’n dod i ddeall fod Meirion a’i debyg yn anghywir i ddweud fod credu mewn ail-eni yn eich gwneud, by default, yn hunangyfiawn. Oherwydd holl ddiben eich ail-eni yng Nghrist ydy eich bod chi’n gwadu’r hunan ac yn cydnabod eich bod chi’n llwyr ddibynnol ar ras a chariad Duw i’ch ail-eni chi. “Nid yw’n dibynnu ar weithredoedd, ac felly ni all neb ymffrostio.” yw geiriau Paul yn adnod 9.

Fyddwn ni’n morio canu Clywch lu’r nef adeg y Nadolig. Dy' ni’r Cymry yn rai sy’n mwynhau canu emynau heb ystyried ystyr y geiriau ac ‘dy ni’n waeth byth maen siŵr am forio canu’r hen garolau heb oedi i ystyried ystyr y geiriau. Gwrandewch ar bennill olaf Clywch lu’r nef:

Henffych, T’wysog heddwch yw;
henffych, Haul Cyfiawnder gwiw:
bywyd ddwg, a golau ddydd,
iechyd yn ei esgyll sydd.
Rhoes i lawr ogoniant nef;
fel na threngom ganwyd ef;
ganwyd ef, O ryfedd drefn,
fel y genid ni drachefn!


Clywch lu’r nef yn seinio’n un,
henffych eni Ceidwad dyn!


Dyna ni, dwi wedi gorffen holi, stilio, procio a phryfocio ynglŷn a’r chwestiwn mawr Gwilym Owen a Judith. Dyma beth yw ‘ail-eni’, dyma rwyf fi wedi ei brofi a dyma yr wyf fi'n mynd i mewn i'r weinidogaeth i'w rhannu.
rhysllwyd
 
Negeseuon: 68
Ymunwyd: Maw Rhag 02, 2008 2:30 pm

Re: Beth yw "ail-eni"?

Postiogan pysgodyn_piws » Mer Chw 24, 2010 12:18 pm

I mi, yr hyn a olyga ail-eni imi ar y "stage" yma yn fy mhererindod yw profiad o drawsnewidiad sy'n digwydd pan wyt ti'n dod i adnabod a derbyn Iesu Grist. Mae hon yn broses sy'n arwain i ti ail edrych ar dy holl agwedd at fywyd ac yn herio'r gwerthoedd "bydol "sydd wedi cael eu hystyried mor bwysig. Mae'n gam cyntaf ar y broses o ddod i mewn i'w Deyrnas ac i ddymuno gweld ei Deyrnas yn lledaenu i bob agwedd o fywyd ac ar draws pob ffin a gwahanfur.
pysgodyn_piws
 
Negeseuon: 43
Ymunwyd: Llun Rhag 01, 2008 8:46 pm
Lleoliad: Gogland

Re: Beth yw "ail-eni"?

Postiogan Dyfrig Rees » Mer Chw 24, 2010 2:15 pm

Ai cam bach pitw ar y ffordd i ddeall "beth yw ail eni" fyddai hepgor y derm yn gyfangwbl. Wedi'r cyfan nid dyma'r term geir yn nhrafodaeth Iesu a Nicodemus. Caiff geni drachefn, h.y. unwaith yn rhagor, cyfieithiad yr esgobion, ei drosi yn geni o'r newydd neu'n eni oddi uchod yn y cyfieithiadau newydd. Camddealltwriaeth Nicodemus barodd iddo gredu fod angen ei eni eilwaith a hynny o groth ei fam.
O'm profiad innau mae'n ofynnol i'r enedigaeth newydd,oddi uchod ddigwydd drachefn a thrachefn a thrachefn.
Dyfrig Rees
 
Negeseuon: 31
Ymunwyd: Llun Rhag 15, 2008 8:31 pm

Re: Beth yw "ail-eni"?

Postiogan Ffred » Iau Chw 25, 2010 4:57 pm

Gobeithio nad mater o semanteg na chymysgu delweddau yw hyn, ond dwi ddim yn credu fod "ail-eni" yn digwydd dro ar ol tro. Pan ddown i fyw o'r newydd yn ysbryd Iesu, mae'r hen berson hunanol yn dal yn fyw ynom a dyma sy'n cael ei "sgrwnshio" ar adeg marwolaeth. Mae'r "jekyll" a "hide" yn byw ochr yn ochr ynom - dyma sy'n cyfri am bechod mewn Cristnogion. Nid felly ein bod yn gorfod profi "ail-eni" bob dydd ond ein dewis bob dydd a bob munud o bob dydd yw byw yn y person newydd yn hytrach nag yn yr hen berson hunanol. Dyma ddiben stad o weddi. Proses o sancteiddhad yw graddol roi yr hen berson i farwolaeth. Ni chwblheir y broses honno ar y ddaear. Ernes a dderbyniwn.

A newid y ddelwedd - unwaith yr agorir ffordd ond y mae penderfyniad dyddiol ynghylch troedio'r ffordd. Ni ellir cyrraedd pen y daith (destination) yn y byd hwn. Bod ar y ffordd yw'r fuddugoliaeth.
Ffred
 
Negeseuon: 14
Ymunwyd: Mer Rhag 03, 2008 9:05 pm

Re: Beth yw "ail-eni"?

Postiogan rhysllwyd » Sul Chw 28, 2010 10:12 pm

Dyfrig Rees a ddywedodd:O'm profiad innau mae'n ofynnol i'r enedigaeth newydd,oddi uchod ddigwydd drachefn a thrachefn a thrachefn.


Nid dyma fy mhrofiad i. Er na ches i droedigaeth ar y ffordd i Damascus, mi ydw i'n gweld fy ail-enedigaeth fel digwyddiad one off ddigwyddodd dros gyfnod o rai misoedd. Dydw i ddim yn peidio bod yn Gristion ac yn dod yn Gristion eto dro ar ôl tro. Nid fel yna maen gweithio o'm profiad a'm dealltwriaeth i o'r ffydd.

Efallai dy fod yn cymysgu Sancteiddhad gyda Chyfiawnhad? Y mae'r cyfiawnhad yn ddigwyddiad, ac os nad ydio'n ddigwyddiad yna rydym ni'n byw ein bywydau mewn ansicrwydd parhaol ac mae hynny yn anghywir oherwydd gall (y maen bosib, ond rwy'n sylwi nad ydy hi wastad yn digwydd i bawb) y Cristion fyw bywyd llawen o sicrwydd. Ond y mae sancteiddhad yn dilyn, dyna lle fyddw ni weithiau yn cymryd cam ymlaen a dau yn ôl yn ein pererindod fel disgwyblion i Iesu. Ond hyd yn oed oes gymera i gam ymlaen ond dau yn ôl rai diwrnodau fydda i byth yn mynd yn ôl gymaint mod i'n cael fy nan-ail-eni oherwydd fe'm cyfiawnhawyd i er gwaetha'r hyn wyf fi nid oherwydd yr hyn wyf fi.

Rwy'n cyd-weld yn llwyr gyda'r ffordd mae Ffred yn esbonio a gosod y peth allan.
rhysllwyd
 
Negeseuon: 68
Ymunwyd: Maw Rhag 02, 2008 2:30 pm

Re: Beth yw "ail-eni"?

Postiogan Dyfrig Rees » Llun Maw 01, 2010 2:51 pm

Diolch Ffred a Rhys am eich cyfraniadau ac am sbarduno'r meddwl.
Hyn sy'n peri i mi dybio bod yr enedigaeth newydd yn gallu bod i rai yn fwy nag un digwyddiad.
Er bod yr enedigaeth newydd yn thema sy'n rhedeg drwy'r Beibl, cysylltir y term ag efengyl Ioan yn arbennig. Yr enedigaeth newydd sy'n peri i ddyn "weld teyrnas Dduw". Yn yr efengylau cyfolwg, edifarhau a chredu sy'n caniatau i ddyn weld teyrnas Dduw. Gan na cheir y gair edifeirwch yn efengyl Ioan, tybed, a oes rhywfaint o le i gredu mai'r enedigaeth newydd yw edifeirwch iddo yntau. A bwrw bod rhyw elfen o wirionedd yn yr awgrym mae'n sefyll wedyn bod yr enendigaeth newydd, fel edifeirwch yn dod yn realiti cyson, drachefn a thrachefn.
Gallaf fel Pantycelyn, son am y " boreu byth mi gofiaf ", eto wrth ddarllen Ioan 3 ni chaf fy hunan byth yn meddwl am yr enediageth newydd fel rhyw gymal cyntaf sydd wedi hen fynd heibio, fel petai, yn fy hanes. Rwyn dal i deimlo bod Iesu yn siarad a fi pan ddarllenaf, " Yn wir, yn wir, rwyn dweud wrthyt, oni chaiff dyn ei eni o'r newydd ni all weld teyrnas Dduw." Yn wir, yn ystod fy mhererindod ysbrydol, y 31 mlynedd ola, cefais "enedigaethau newydd" oedd dipyn mwy syfrdanol a thrawmatig na'r un gynta honno.
Pan fo Pedr yn son am " ein geni ni o'r newydd... trwy atgyfodiad Iesu Grist..." 1 Pedr 1;3 rwyn clywed y sgwrs rhyngddo a Iesu ar ddiwedd ef. Ioan. Mae Iesu'n ei gyfarch wrth ei hen enw ac yn ei arwain, mi gredaf, i ddechreuadau perthynas newydd. " A wyt ti'n fy ngharu i? " ac yn ddiweddarach, "yn ffrind i mi," yw cwestiwn Iesu. Nid aeddfedrwydd cyffes Ceserea Philipi yw'r ateb ond geiriau un sydd wedi ei droi i fod fel plentyn. " Ydwyf, Arglwydd, fe wyddost fy mod i'n ffrind i ti." I mi " genedigaeth newydd " geir yma,nid y gyntaf i Pedr, na'r olaf chwaith. Beth ddigwyddodd iddo yn nhy Cornelius.
Dyfrig Rees
 
Negeseuon: 31
Ymunwyd: Llun Rhag 15, 2008 8:31 pm


Dychwelyd i Materion Cyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddywr cofrestredig ac 1 gwestai