Yr Adnod Waethaf

Dewch yma i ymateb i'r erthyglau sydd ar y wefan

Yr Adnod Waethaf

Postiogan Allan » Llun Tach 09, 2009 6:51 pm

Dal i fyny ac ol rifynnau'r cylchgrawn Third Way oeddwn a gweld cyfeiriad at arolwg diweddar gwefan Ship of Fools ar 10 adnod waethaf Y Beibl. http://www.shipoffools.com/features/200 ... sults.html

Yn rhif i:
“Ac nid wyf yn caniatáu i wragedd hyfforddi, nac awdurdodi ar y gwŷr; eu lle hwy yw bod yn dawel.”
(1 Timotheus 2.12)

Dyma’r naw arall – ond bydd rhaid i chi agor eich Beiblau i’w darllen: 1 Samuel 15:3; Exodus 22:18;
Salm 137:9; Barnwyr 19.25; Rhufeiniaid 1.27; Barnwyr 11.30-31; Genesis 22:2; Effesiaid 5.22; 1 Pedr 2.18.

Mae’r arolwg yn cloi gyda’r geiriau hyn: We need a view of the Bible that is nuanced enough to treasure its comforts and challenges, its classic stories and groundbreaking ethical wisdom, while facing the plain fact that some of it is unacceptable.

Ond beth am y 10 adnod orau? Beth yw barn cyfrannwyr i Cristnogaeth 21? Os daw digon o ymateb beth am gyhoeddi fel y gwnaeth Ship of Fools.
Allan
 
Negeseuon: 9
Ymunwyd: Llun Rhag 01, 2008 9:36 am

Re: Yr Adnod Waethaf

Postiogan rhysllwyd » Maw Rhag 01, 2009 9:04 pm

Fe annogaf i neb gymryd rhan yn y drafodaeth ddibwynt yma! Ni ddylid cymryd yr un adnod o'i gyd-destun!
rhysllwyd
 
Negeseuon: 68
Ymunwyd: Maw Rhag 02, 2008 2:30 pm

Re: Yr Adnod Waethaf

Postiogan Wyddhewch Wodewic » Llun Chw 15, 2010 10:22 am

Anogaf finnau bawb i weld yr erthygl ei hun yn ei gyd-destun:

"We need a view of the Bible that is nuanced enough to treasure its comforts and challenges, its classic stories and groundbreaking ethical wisdom, while facing the plain fact that some of it is unacceptable."

Mae hi'n anodd credu nad yw pob darllennydd deallusgar ac aeddfed, ac sydd a ffydd sy'n ceisio dealltwriaeth, yn ymladd yn aml gyda adnodau o'r ysgrythurau.
Yes, we are all individuals.
Wyddhewch Wodewic
 
Negeseuon: 7
Ymunwyd: Sul Maw 08, 2009 12:22 pm
Lleoliad: Yma. O hyd.

Re: Yr Adnod Waethaf

Postiogan Ffred » Mer Chw 17, 2010 9:25 pm

Beth am newid y drywydd i'r "adnod a gam-ddefnyddiwyd fwyaf"
Ffred
 
Negeseuon: 14
Ymunwyd: Mer Rhag 03, 2008 9:05 pm

Re: Yr Adnod Waethaf

Postiogan Huw Meredydd Owen » Maw Maw 09, 2010 11:15 pm

Delwedd

www.ship-of-fools.com/mystery/index.html

'dwi wrth fy modd efo'r syniad o 'Mystery Worshipper' - beth fyddai'r 'MW' yn ddweud tasa fo/hi yn troi mewn rhyw Sul?

fyddai'r addoliad yn ddidwyll a dwfn? ... o ddifri?

(ac wrth gwrs, fydden ni byth yn dyfynnu adnod allan o'i gyd-destun, fydden ni, jest i wneud pwynt?... honno yw'r adnod waethaf)
Huw Meredydd Owen
 
Negeseuon: 7
Ymunwyd: Sul Ion 25, 2009 10:28 pm
Lleoliad: Pwllheli

Re: Yr Adnod Waethaf

Postiogan sionapsion » Iau Maw 25, 2010 11:21 am

Yr adnodau PWYSICAF o ran datblygiad Cristnogaeth yw Galatiaid 1.11a12 lle mae Paul yn dweud nad iddo gael yr Efengyl gan ddyn, ond gan Grist. Mae pobl wedi honni ac adeiladu ar hyn byth ers hynny. Buasai'n ddiddorol gwybod sut y buasai “Cristnogaeth” wedi datblygu petau wedi dilyn dysgeidiaeth Iesu yn hytrach na Paul/Crist.

Yr adnodau
sionapsion
 
Negeseuon: 6
Ymunwyd: Mer Ion 07, 2009 5:58 pm


Dychwelyd i Y Fforwm

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddywr cofrestredig ac 1 gwestai

cron