Cristnogaeth21

NEWYDDION

Yma y bydd unrhyw newyddion am Cristnogaeth 21 yn ymddangos.

Erthygl Vivian Jones yn Y Tyst

Ymddangosodd yr erthygl isod yn y rhifyn diweddaraf o'r Tyst.

Tanseilio neu Ddiwygio?
Yn Y Tyst am Fedi 24, dywedodd Iwan Llewelyn Jones yn y golofn olygyddol mai “tristwch o'r mwyaf” yw darllen erthyglau ar wefan Cristnogaeth 21 sy'n “tanseilio'r hyn sydd wedi bod yn anadl einioes yr eglwys o'i dechreuad”. Yr anadl einioes hwnnw yn ei farn ef yw duwdod Iesu fel y'i gwelir yn yr athrawiaethau amdano. Nid yw'n nodi'r erthyglau y cyfeiria atynt, fel y gellid pwyso ei adwaith iddynt, ond dyma dri sylw.
1. Nid yw'r athrawiaethau clasurol yn derfynol eu hawdurdod i rai. Ar un adeg ni fu gan y tadau Annibynnol Cymreig, yr hen Ymneilltuwyr a fu'n ffyddlon i'r Lwther ifanc cyn i Ymneilltuaeth ymroi i Galfiniaeth, fawr i'w ddweud dros yr athrawiaethau hynny. Iddynt hwy roedd cyfamodau eglwysig yn bwysicach (fel y mae'r amrywiaeth ohonynt i rai heddiw) nag unffurfiaeth anFeiblaidd athrawiaethau. Mae'n fuddiol edrych ar bennod 4 yn Ymneilltuaeth (Gwasg Gomer 1962), llyfr Ifor Parry, Aberdâr gynt, i ymgydnabod a'r safbwynt hwnnw. Mae rhai a elwir yn radicaliaid heddiw nad ydynt ond yn dal i fyny a radicaliaeth Feiblaidd, broffwydol y cyndadau hynny.
2. Ystyria Iwan fod yna gredoau am Iesu y bu'r eglwys yn unfryd yn eu cylch erioed. Ond, er enghraifft, galwodd yr Ymherawdr Cystennin (nid yr Eglwys) y gynhadledd y dechreuwyd llunio Athrawiaeth y Drindod ynddi, oherwydd bod esgobion a diwinyddion Cristnogol yn anghytuno ynghylch natur Iesu (a hynny'n bygwth undod yr Ymerodraeth a oedd wedi derbyn Cristnogaeth yn grefydd swyddogol iddi). Mae'n werth cofio hefyd, fel y nodais mewn man arall, mai dim ond tua 300 oedd yno (gwahoddwyd tua 1800), ac nad oedd y trichant hwnnw'n unfrydol! Mae esiamplau eraill drwy'r canrifoedd sy'n dangos bod llawer iawn, iawn mwy o amrywiaeth barn Cristnogol ynghylch Iesu wedi bod nag yr addefa haneswyr y “prif” enwadau.
3. Yn anuniongyrchol tynnodd Iwan sylw at y ffaith bod yna ysgolheigion heddiw - fel Cymrodyr y 'Jesus Seminar' - sy'n wynebu'r hyn y bu eu cyd-ysgolheigion yn ei osgoi hyd yma, sef canlyniadau llawn beirniadaeth Feiblaidd. Ai'r rhain yw etifeddion John Robinson, y gweledydd ysbrydoledig a ddywedodd mewn pregeth wrth rai o'i braidd, y Mamau a'r Tadau Pererin, cyn iddynt ymadael o Leyden yn yr Isalmaen am America ym 1620, “Yr wyf yn hyderus bod gan yr Arglwydd eto fwy o oleuni ac o wirionedd i'w ddatguddio o'i Air Sanctaidd”? Tybed. Ond yn wyneb y newidiadau syfrdanol yn ein byd ers tro, yn feddyliol, yn foesol, yn gyfreithiol, yn grefyddol, yn amgylcheddol ac yn economaidd, a yw'n ddichonadwy nad yw'r Duw sy'n arglwydd hanes yn dweud rhyw bethau mawr newydd iawn, iawn wrthym heddiw drwy'r holl gyffro hwn? Yn wir, mae rhai'n amau ei fod yn galw'r Eglwys i Ddiwygiad lletach a dyfnach na'r un a welwyd erioed o'r blaen. Yn ôl un awdur mae angen Diwygiad ar yr Eglwys Gristnogol tua phob pum can mlynedd beth bynnag, ac mae bron pum can mlynedd ers pan hoeliodd Martin Luther ei Naw-deg-pump Pwnc ar ddrws ei Eglwys yn Wittenberg yn yr Almaen (1517). Ond sawl un ohonom sy'n agored i newid posibl mor enfawr?
Cred sylfaenwyr y wefan Cristnogaeth 21 mai cymwynas â'n cenhedlaeth yw rhoi unrhyw syniadau 'diwygiadol' cyfoes posibl gerbron Cristnogion Cymru iddynt hwythau wybod amdanynt - ac iddynt allu adweithio iddynt fel y gwnaeth Iwan yn Y Tyst - a diolch iddo am wneud, rhy ychydig o drafod agored sydd heddiw. Croeso iddo ef ac i eraill drafod drwy wefan Cristnogaeth 21 hefyd, wrth gwrs.
09/11/2009

Noson Wahanol

SGWRS a CHÂN NOS SUL Y ’STEDDFOD

“Y Gân tu ôl i’r Gân”

Noson ‘Wahanol’

gyda

GWYNETH GLYN
GWILYM MORUS
TECWYN IFAN

Ynghŷd â chyfraniadau gan

Toni Schiavone
Branwen Niclas
Pryderi Llwyd Jones
ac eraill

Yng Ngwesty

PLAS COCH, Y BALA
NOS SUL, AWST 2
9.00p.m.

Mynediad am ddim ond bydd cyfle i gyfrannu tuag at Apêl Darfur trwy Gymorth Cristnogol.

Noddir y Noson gan Eglwysi Bedyddwyr Dinbych, Fflint a Meirion ac mewn cydweithrediad â Cristnogaeth 21
20/07/2009

Lansio cyfrol newydd gan Vivian Jones

Yn Undeb yr Annibynwr yn Rhuthun lansiwyd cyfrol ddiweddaraf Vivian Jones, 'Menter Ffydd'. Ar yr un patrwm a'r gyfrol 'Helaetha dy Babell' (2004) mae Vivan yn trafod pynciau sydd mor berthnasol i'r dystiolaeth Cristnogol yng Nghymru heddiw. Yn yr adran ar 'Gristnogaeth', er enghraifft, mae'n trafod yr Eglwys Leol, Yr Eglwysi a'r Ddinas, Cristnogaeth a Diwylliant, Cristnogaeth a Chelfyddyd.
Yr adrannau eraill yw Ffydd, Bywyd, Grasusau.

'Rhodd werthfawr i Gristnogion Cymru ac i'r genedl gyfan yw'r llyfr hwn,' meddai Robert Pope yn y broliant 'a'r gobaith yw y gwneir defnydd mawr ohoni'.

£10.00 yn unig yw'r pris ac wedi darllen y gyfrol fe fydd nifer fawr o'r darllenwyr am drafod peth o'r cynnwys ar Cristnogaeth 21.
20/07/2009

DIGWYDDIADAU'R MORLAN

Mae cyfeillion y Morlan yn Aberystwyth yn awyddus i dynnu sylw at rai digwyddiadau sydd i'w cynnal yno yn ystod mis Gorffennaf.

Tan 25 Gorffennaf mae modd gweld arddangosfa o waith Cefyn Burgess - casgliad o luniau o gapeli ardal Aberystwyth, Lerpwl ac America, y cyfan yn cael eu tynnu ynghyd gan garthen "Yma mae beddrodau'n tadau".

Bydd Cefyn yn y Morlan am 7.00p.m. nos Lun, 13 Gorffennaf i siarad am ei waith a'r hyn sy'n ei ysbrydoli ac yn dylanwadu arno.

Yna ar y prynhawn Llun canlynol (20 Gorffennaf), bydd Dr Huw Owen yn rhoi sgwrs ar "Hanes Anghydffurfiaeth yn Aberystwyth". Bydd yn ddechrau am 2 o'r gloch, ac yn cael ei gynnal yn ardal yr arddangosfa.

Mae'r mynediad am ddim i'r digwyddiadau hyn - croeso mawr i bawb.
01/07/2009
 

 

 


^ Nôl i'r Brig ^