Cristnogaeth21

NEWYDDION

Yma y bydd unrhyw newyddion am Cristnogaeth 21 yn ymddangos.

At ein gilydd, gyda'n gilydd yn Nyffryn Aeron

Ychydig dros flwyddyn yn ol daeth cynrhychiolwyr nifer o gapeli ag eglwysi yn Nyffryn Aeron at ei gilydd i drafod y syniad o sut gellir gweithio gyda'n gilydd a chreu gweithgarwch ar y cyd. Y digwyddiad cyntaf oedd ar Sul 1 Mawrth eleni a hynny i ddathlu Gwyl Ddewi.

Dyna'r achlysur cyntaf o'i fath yn y Dyffryn a braf oedd gweld yr 18 o gapeli ag eglwysi yn cydweithio gyda'i gilydd tuag at un amcan.

Bellach mae trefniadau ar y gweill i gynnal digwyddiad arall sef Gŵyl y Golau (Cristingl) a hynny ar Nos Ystwyll sef Nos Fercher, 6 Ionawr 2010 am 6.30 o'r gloch yr hwyr. Cynhelir y digwyddiad yn hen stabl plas Llanerchaeron.

Bydd gwasananeth byr arbennig ar gyfer plant a'u rhieni i ddathlu hanes y doethion yn cyrraedd stabal ym Methlehem a chyfle iddynt wedyn greu Cristingl a chanu carol neu ddwy cyn mwynhau lluniaeth a chyfle i gymdeithasu.

Yn bennaf mae hwn yn gyfle i ddod ynghyd o dan faner 'at ein gilydd, gyda'n gilydd' sydd yn cynrhychioli holl gapeli ag eglwysi Dyffryn Aeron. Y gobaith wedyn yw adeiladu ar y gweithgarwch yma er mwyn medru gweithio ymhellach gyda'n gilydd yn ystod 2010.
22/12/2009

Erthygl Vivian Jones yn Y Tyst

Ymddangosodd yr erthygl isod yn y rhifyn diweddaraf o'r Tyst.

Tanseilio neu Ddiwygio?
Yn Y Tyst am Fedi 24, dywedodd Iwan Llewelyn Jones yn y golofn olygyddol mai “tristwch o'r mwyaf” yw darllen erthyglau ar wefan Cristnogaeth 21 sy'n “tanseilio'r hyn sydd wedi bod yn anadl einioes yr eglwys o'i dechreuad”. Yr anadl einioes hwnnw yn ei farn ef yw duwdod Iesu fel y'i gwelir yn yr athrawiaethau amdano. Nid yw'n nodi'r erthyglau y cyfeiria atynt, fel y gellid pwyso ei adwaith iddynt, ond dyma dri sylw.
1. Nid yw'r athrawiaethau clasurol yn derfynol eu hawdurdod i rai. Ar un adeg ni fu gan y tadau Annibynnol Cymreig, yr hen Ymneilltuwyr a fu'n ffyddlon i'r Lwther ifanc cyn i Ymneilltuaeth ymroi i Galfiniaeth, fawr i'w ddweud dros yr athrawiaethau hynny. Iddynt hwy roedd cyfamodau eglwysig yn bwysicach (fel y mae'r amrywiaeth ohonynt i rai heddiw) nag unffurfiaeth anFeiblaidd athrawiaethau. Mae'n fuddiol edrych ar bennod 4 yn Ymneilltuaeth (Gwasg Gomer 1962), llyfr Ifor Parry, Aberdâr gynt, i ymgydnabod a'r safbwynt hwnnw. Mae rhai a elwir yn radicaliaid heddiw nad ydynt ond yn dal i fyny a radicaliaeth Feiblaidd, broffwydol y cyndadau hynny.
2. Ystyria Iwan fod yna gredoau am Iesu y bu'r eglwys yn unfryd yn eu cylch erioed. Ond, er enghraifft, galwodd yr Ymherawdr Cystennin (nid yr Eglwys) y gynhadledd y dechreuwyd llunio Athrawiaeth y Drindod ynddi, oherwydd bod esgobion a diwinyddion Cristnogol yn anghytuno ynghylch natur Iesu (a hynny'n bygwth undod yr Ymerodraeth a oedd wedi derbyn Cristnogaeth yn grefydd swyddogol iddi). Mae'n werth cofio hefyd, fel y nodais mewn man arall, mai dim ond tua 300 oedd yno (gwahoddwyd tua 1800), ac nad oedd y trichant hwnnw'n unfrydol! Mae esiamplau eraill drwy'r canrifoedd sy'n dangos bod llawer iawn, iawn mwy o amrywiaeth barn Cristnogol ynghylch Iesu wedi bod nag yr addefa haneswyr y “prif” enwadau.
3. Yn anuniongyrchol tynnodd Iwan sylw at y ffaith bod yna ysgolheigion heddiw - fel Cymrodyr y 'Jesus Seminar' - sy'n wynebu'r hyn y bu eu cyd-ysgolheigion yn ei osgoi hyd yma, sef canlyniadau llawn beirniadaeth Feiblaidd. Ai'r rhain yw etifeddion John Robinson, y gweledydd ysbrydoledig a ddywedodd mewn pregeth wrth rai o'i braidd, y Mamau a'r Tadau Pererin, cyn iddynt ymadael o Leyden yn yr Isalmaen am America ym 1620, “Yr wyf yn hyderus bod gan yr Arglwydd eto fwy o oleuni ac o wirionedd i'w ddatguddio o'i Air Sanctaidd”? Tybed. Ond yn wyneb y newidiadau syfrdanol yn ein byd ers tro, yn feddyliol, yn foesol, yn gyfreithiol, yn grefyddol, yn amgylcheddol ac yn economaidd, a yw'n ddichonadwy nad yw'r Duw sy'n arglwydd hanes yn dweud rhyw bethau mawr newydd iawn, iawn wrthym heddiw drwy'r holl gyffro hwn? Yn wir, mae rhai'n amau ei fod yn galw'r Eglwys i Ddiwygiad lletach a dyfnach na'r un a welwyd erioed o'r blaen. Yn ôl un awdur mae angen Diwygiad ar yr Eglwys Gristnogol tua phob pum can mlynedd beth bynnag, ac mae bron pum can mlynedd ers pan hoeliodd Martin Luther ei Naw-deg-pump Pwnc ar ddrws ei Eglwys yn Wittenberg yn yr Almaen (1517). Ond sawl un ohonom sy'n agored i newid posibl mor enfawr?
Cred sylfaenwyr y wefan Cristnogaeth 21 mai cymwynas â'n cenhedlaeth yw rhoi unrhyw syniadau 'diwygiadol' cyfoes posibl gerbron Cristnogion Cymru iddynt hwythau wybod amdanynt - ac iddynt allu adweithio iddynt fel y gwnaeth Iwan yn Y Tyst - a diolch iddo am wneud, rhy ychydig o drafod agored sydd heddiw. Croeso iddo ef ac i eraill drafod drwy wefan Cristnogaeth 21 hefyd, wrth gwrs.
09/11/2009

Cyfweliad Golwg360

Yn ddiweddar, cyhoeddwyd sgwrs am Cristnogaeth 21 ar wefan Golwg 360, a hynny i nodi'r ffaith ein bod yn cyrraedd ein pen blwydd cyntaf fel gwefan. Gofynnwyd nifer o gwestiynau perthnasol ac amserol i'r Ysgrifennydd, Pryderi Llwyd Jones. Yn anorfod, roedd y sgwrs ar wefan Golwg wedi ei chwtogi rhyw gymaint, ond rydym yn ei chynnwys yn ei chrynswth yma.

Pryd gafodd y wefan ei sefydlu?
Fe gafodd Cristnogaeth 21 ei sefydlu ar Ragfyr 1,2008

Sut ymateb mae’r wefan wedi’i gael?
O gymharu â gwefan Golwg neu’r BBC - ychydig iawn, iawn o ymateb. Ond o safbwynt gwefan newydd o’i bath yn Gymraeg, y nifer o bynciau sydd wedi eu codi, y beirniadu a’r gwerthfawrogi a’r anwybyddu bwriadol gan nifer fawr o Gristnogion - ymateb cystal â’r disgwyl. Mae angen gweld mwy o bynciau gwleidyddol a chymdeithasol yn cael eu codi oherwydd cyn belled ag y mae C21 yn y cwestiwn mae â wnelo Cristnogaeth â phopeth.

Ydi gobeithion sefydlwyr Cristnogaeth21 wedi’u gwireddu? Ydi’r gwasanaeth yn fwy/ llai llwyddiannus na’r hyn yr oeddech wedi’i ragdybio?
Wedi dechrau cael eu gwireddu, efallai. Fel y gwelwch ar Dudalen Gartref y wefan, hybu trafodaeth, lle nad oes trafodaeth yw’r bwriad. Cyfoeth Cristnogaeth yw'r amrywiaeth o ddehongliadau a safbwyntiau sydd wedi bod yn rhan o’r eglwys o’r dechrau. Oherwydd twf mewn ceidwadaeth grefyddol (ac y mae ystod eang i’r geidwadaeth honno) mae tuedd i wrthod Cristnogaeth (fel yn achos Richard Dawkins) gan gredu mai dyna’r unig ddehongliad a safbwynt a diwinyddiaeth. Mae radicaliaeth ryddfrydol wedi mynd tan gwmwl ac wedi bod yn drist o dawel yng Nghymru, er ei fod yn ddylanwad creadigol iawn yn y dystiolaeth Gristnogol. Ein bwriad yw rhoi llais a lle i’r Gristnogaeth honno a hynny mewn trafodaeth â phawb yn ddiwahân. Y perygl a’r tristwch yw ein bod yn cael ein cyhuddo o wadu’r ffydd, o danseilio’r ffydd a hyd yn oed o ymwrthod a’r ffydd.
Nid ydym yn gwthio agenda mewn unrhyw ffordd (mae’r wefan yn dibynnu ar unigolion i godi pwnc), ond mae’n rhaid cael llawer mwy o drafod yng Nghymru. Mae rhywun wedi dweud am Ceri Wyn ei fod (yn ei bryddest) yn son mwy am Dduw yn ei anffyddiaeth (os dyna ydyw) nag a wna aelodau’r eglwysi yn eu cred. Mae llawer o wir yn hynny.
Yr oeddem wedi gobeithio y byddai gwefan yn rhoi lle a gofod i bobl sydd wedi hen droi cefn ar yr eglwysi ac nad yw’r Gristnogaeth y maent yn clywed amdani heddiw yn apelio dim atynt. Nid yw hynny wedi digwydd eto, ond ein gobaith yw y bydd yn digwydd yn raddol. Tueddu yr ydym, i siarad gyda’n gilydd (ac y mae hyn yn wir am bob ‘carfan’ a phwyslais) yn hytrach na phobl wahanol i ni. Yr ydym yn gwbl argyhoeddedig fod gan y Ffydd Gristnogol - a Iesu o Nasareth - rhywbeth sydd yn gwbl hanfodol ac allweddol i fywydau unigolion a chymuned a chenedl. Nid ydym am weld y cyfan yn cael ei wrthod oherwydd difaterwch, rhagfarn nac anwybodaeth na’r culni sydd am godi muriau neu osod terfynau ar yr Efengyl.


Beth am destunau llosg y wefan - pa bynciau sy’ wedi bod fwyaf dadleuol a pham?
Y pwnc sydd wedi creu'r drafodaeth fwyaf o’r dechrau (ac yn parhau o hyd) yw Rhywioldeb. Mae wedi bod yn drafodaeth ardderchog ac wedi bod yn ffynhonnell bwysig o wybodaeth a phrofiadau gan bobl hoyw yn ogystal â Christnogion cynhwysol a Christnogion sy’n amrywio o fod yn ‘oddefgar’ i’r rhai sy’n gwbl ddigyfaddawd a gelyniaethus. Nid oes cystal trafodaeth wedi bod yn unman yn Gymraeg ac fe ddylai ein heglwysi Cymraeg ddarllen y cyfan, er mwyn cael mwy o oleuni a deall, ac er mwyn gwneud yr eglwysi yn lle diogel a chroesawus i hoywon a’u cyfraniad. Mewn gwirionedd, mae’n ‘hen’ drafodaeth, ond prin, ar y cyfan, yw’r trafod wedi bod yn yr eglwysi Cymraeg.

O’r hyn ’dw i’n ei weld, mae 100 o aelodau . Ydi’r aelodau yn amrywio o ran oed ? Faint o ddefnyddwyr ifanc sydd?
Mae tua 100 wedi cofrestru, ond mae nifer o ‘Gyfeillion’ hefyd ac y mae dros 200 o’r E-fwletin wythnosol yn cael ei anfon. Oherwydd bod y wefan yn rhan o rwydwaith o wefannau gwahanol mae’n amhosibl i ni wybod faint o ‘hits’ sydd a faint o’r rheiny sydd gan yr un rhai, ond os edrychwch chi ar y niferoedd sydd wedi darllen y trafodaethau, mae’n ‘weddol, ond gallai fod yn well….’
Pobl ifanc? Anodd iawn dweud. Ychydig sydd wedi cyfrannu. Oherwydd bod Cristnogion ifanc, brwdfrydig, yn tueddu i fod o safbwyntiau ceidwadol efengylaidd (fel y gwelwyd ar Week In, Week Out yn ddiweddar) a bod ganddynt eu gwefannau eu hunain, mae lle i gredu na fyddent hyd yn oed yn trafferthu i edrych ar y wefan oherwydd ei natur ‘rhyddfrydol’ Mae un eithriad i hyn, diolch am hynny, oherwydd mae’r person hwnnw yn llwyddo i greu trafodaeth a deialog rhwng safbwyntiau diwinyddol gwahanol. Ac y mae hynny yn bwysig iawn i C21.

Heb os, rydan ni’n byw mewn oes dechnolegol sy’n prysur ddatblygu - o ganlyniad, ydych chi’n meddwl fod pobl yn fwy parod i ymaelodi a thrafod crefydd a phynciau eraill fel rhywioldeb ar wefannau fel Cristnogaeth 21?
Mae hynny yn wir am y drafodaeth ar rywioldeb. Mae’n amlwg bod gwefannau/stafelloedd clebran a.y.b. yn fyw o sgwrsio bedair awr ar hugain. Mae i hynny ei beryglon a’i anfanteision, wrth gwrs, ond mae C21 ym mhell iawn o fod yn y sefyllfa honno !

Gobeithion i’r wefan yn y dyfodol?
Mwy o ymdrechion i arwain pobl at y wefan er mwyn denu mwy i gyfrannu iddi. Yn 2010 fe fyddwn yn trefnu rhai digwyddiadau cyhoeddus, gan gofio nad yw pawb yn credu mai gwefan yw popeth - diolch am hynny. Ein gobeithion yn wir yw gweld eglwysi bychan, byw, yn ein cymunedau ple mae addoli, rhannu a gofalu yn naturiol - ac yn creu cymuned agored a chroesawus. Y gobaith mwyaf yw bydd y wefan yn gyfrwng bychan i symud o’r awyrgylch llethol o ddigalon ac ofnus sydd ynglŷn â dyfodol y ffydd yng Nghymru i Gristnogaeth ddeinamig a lliwgar. Cyfrwng ydi’r wefan - dim byd mwy. Mae yna gyfryngau eraill, wrth gwrs, a diolch am hynny.
09/11/2009

Lansio cyfrol newydd gan Vivian Jones

Yn Undeb yr Annibynwr yn Rhuthun lansiwyd cyfrol ddiweddaraf Vivian Jones, 'Menter Ffydd'. Ar yr un patrwm a'r gyfrol 'Helaetha dy Babell' (2004) mae Vivan yn trafod pynciau sydd mor berthnasol i'r dystiolaeth Cristnogol yng Nghymru heddiw. Yn yr adran ar 'Gristnogaeth', er enghraifft, mae'n trafod yr Eglwys Leol, Yr Eglwysi a'r Ddinas, Cristnogaeth a Diwylliant, Cristnogaeth a Chelfyddyd.
Yr adrannau eraill yw Ffydd, Bywyd, Grasusau.

'Rhodd werthfawr i Gristnogion Cymru ac i'r genedl gyfan yw'r llyfr hwn,' meddai Robert Pope yn y broliant 'a'r gobaith yw y gwneir defnydd mawr ohoni'.

£10.00 yn unig yw'r pris ac wedi darllen y gyfrol fe fydd nifer fawr o'r darllenwyr am drafod peth o'r cynnwys ar Cristnogaeth 21.
20/07/2009
 

 

 


^ Nôl i'r Brig ^