E-Fwletin Chwefror 20fed, 2012
Gweddïo ar Ddechrau Cyfarfod o Gyngor Tref – a materion lletach.
Yn ddiweddar, aeth cyn-aelod atheistiaidd o Gyngor Tref Bideford yn Nyfnaint i’r Uchel Lys yn Llundain i brotestio bod y Cyngor yn dechrau ei gyfarfodydd â gweddi. Cytunodd y Llys nad oedd gan y Cyngor hawl cyfreithiol i ddechrau ei gyfarfodydd a gweddi ffurfiol. Parodd y mater gryn drafod, George Carey cyn-Archesgob Caergaint yn ofni bod pobl wrth grefyddol yn ceisio ailddiffinio crefydd mewn bywyd cyhoeddus, Y Farwnes Warsi, cyd-gadeirydd y Blaid Geidwadol yn sôn yn Rhufain wrth lysgenhadon Pabyddol am ‘militant secularisation’ a’r angen mawr i ddiogelu lle Cristnogaeth mewn bywyd cyhoeddus . Ymddengys bod y frenhines wedi gwneud sylw a all fod ynghlwm wrth y mater. Dywedodd yn ddiweddar mewn araith gyhoeddus bod mantais i eglwys wladol nad yw pawb nac yn ei werthfawrogi na’i ddeall.
Mae Eric Pickles, Gweinidog Cymunedau yn y llywodraeth wedi dechrau llunio deddf brys i newid y sefyllfa yn Bideford ac yn unrhyw fan arall lle y cwyd achos tebyg. A ddoe roedd dwy dudalen wedi eu neilltuo yn yr ‘Observer’ i sgwrs ar egwyddorion cyffredinol y mater rhwng Will Hutton, Prifathro Coleg Hertford yn Rhydychen, a Richard Dawkins, cymrawd emeritws o’r Coleg Newydd yno.
Pan glywais gyntaf am y gwrthwynebiad i weddïo ar ddechrau cyfarfod o Gyngor, fy meddwl i oedd, pe bawn i’n aelod o’r Cyngor ac aelod yn gwrthwynebu dechrau a gweddi, byddwn i’n hapus iawn i roi gweddi agoriadol o’r neilltu, ond erbyn hyn mae’r mater wedi lledu, a rhai’n cyhuddo agnostigiaid ac atheistiaid a secwlariaid o wneud cyrch yn erbyn crefydd yn gyffredinol, sy’n golygu yn erbyn Cristnogaeth yn y wlad hon. Mae rhai o’r rheiny - fel Dawkins - yn gwadu hynny, ac yn dweud mai eu hamcan yw diogelu nad oes gan yr un safbwynt crefyddol hawl i flaenoriaeth dros neb arall yn y byd cyhoeddus. Gall hynny olygu nad oes gan Gyngor hawl i roi preseb a delweddau o’r baban Iesu a Mair a bugeiliaid a doethion yn rhyw fan cyhoeddus, y tu allan i Neuadd Tref er enghraifft. Mae hynny eisoes wedi bod yn achos ymddadlau mewn mwy nag un man. Erbyn hyn yr wyf wedi drysu a’r holl ddadleuon ac ystadegau (pa faint o’r boblogaeth sy’n Gristnogion o ddifrif?), ac ni wn beth arall i’w wneud nawr ond ceisio barn gwybodusion Cristnogaeth 21! Gallwn fod yn weddol sicr y cwyd y mater hwn a’i debyg yng Nghymru nawr ymhen dim amser. Felly, beth amdani gyfeillion oll, dewch, dywedwch eich dweud!..